Cydlynydd Plant ar Ben eu Hunain sy’n Ceisio Lloches

Rôl

Mae’r Cydlynydd UASC yn goruchwylio trosglwyddo plant i Gymru drwy amrywiol gynlluniau Y Swyddfa Gartref ac mae’n darparu cefnogaeth a meithrin gallu i awdurdodau lleol a phartneriaid eraill dderbyn plant a phobl ifanc sy’n cyrraedd ohonynt eu hunain. Gall plant ar ben eu hunain sy’n ceisio lloches gyrraedd yng Nghymru drwy nifer o lwybrau gwahanol:

  • Gall plant gyrraedd ohonynt eu hunain
  • Gall plant gael eu trosglwyddo o awdurdodau lleol mewn rhannau eraill o’r DU o dan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol
  • Gall plant gael eu trosglwyddo o Ewrop o dan adran 67 Deddf Mewnfudo 2016 (y Diwygiad Dubs)
  • Gall Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches gael eu trosglwyddo o’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica o dan y Cynllun Ailsefydlu Plant Diamddiffyn.
  • Gall plant gael eu haduno gyda theulu yng Nghymru o dan y Rheoliad III Dulyn

Beth yw Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches?

Mae Rheolau Mewnfudo Llywodraeth y DU yn diffinio plentyn ar ei ben ei hun sy’n ceisio lloches fel unigolyn sydd:

  • o dan 18 oed pan mae’r cais am loches yn cael ei gyflwyno
  • yn ymgeisio am loches yn eu hawl eu hunain; ac
  • wedi’i wahanu oddi wrth y ddau riant ac nid yw’n derbyn gofal gan oedolyn sydd yn ôl y gyfraith neu’n arfer bod â chyfrifoldeb i wneud hynny

Plant sy’n Ceisio Lloches Ar Eu Pen Eu Hunain yn cyrraedd ohonynt eu hunain

Mae’r rhan fwyaf o Blant ar eu pen eu Hunain yn Ceisio Lloches yn cyrraedd yn y DU ohonynt eu hunain ac yn cyfarfod rhywun naill ai yn y porth mynediad, yn yr Uned Derbyn Ceiswyr Lloches yn Croydon, neu fel arall drwy’r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac amrywiol asiantaethau ledled y DU. Mae’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn ymddangos gyntaf fel arfer yn gyfrifol am eu gofal.

Gall Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches hefyd gael eu cyfeirio i Gymru gan y Swyddfa Gartref os bydd swyddog mewnfudo o’r farn bod ymddangosiad corfforol ac ymddygiad y person ifanc yn awgrymu’n gryf eu bod dros 25 oed ac felly yn cael eu trin fel oedolyn. Yn yr achosion hyn, dylai’r person ifanc barhau i gael ei atgyfeirio i’r Awdurdod Lleol ble maent yn byw ar gyfer asesiad oedran llawn.

Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol

Cafodd y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol ei ddatblygu i annog pob cynghorau yn y DU i wirfoddoli i gefnogi Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches fel bod yna ddosbarthiad mwy cyfartal o gyfrifoldebau gofalu ar draws y wlad). Cafodd darpariaethau’r NTS eu hymestyn i Gymru ym mis Rhagfyr 2017. Cafodd y cynllun ei gymeradwyo yn Rhagfyr 2021.

Diwygiad Dubs / Adran 67

Cyfeirir at y diwygiad ‘Dubs’ hefyd fel Adran 67 Deddf Ymfudo 2016. Gall plant ar eu pen eu hunain wnaeth gyrraedd Groeg, Ffrainc a’r Eidal gael eu trosglwyddo i’r DU o dan y rhaglen Dubs ac maent yn cael cefnogaeth ac yng ngofal yr ALl ar draws y DU. Oherwydd eu hamgylchiadau agored i niwed, mae’r mwyafrif yn cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth hynod brofiadol.

Cynllun Ailgartrefu Plant Diamddiffyn (dolen i VCRS)

Cafodd y Cynllun Ailsefydlu Plant Diamddiffyn ei gyhoeddi yn Ebrill 2016 ac mae ar gael i blant mewn risg uchel o niwed a cham-drin yn rhywiol ynghyd â’u teuluoedd. Wedi eu nodi gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig Dros Ffoaduriaid fel y rhai mewn angen mwyaf, maent yn ailsefydlu yn y DU o wersylloedd ffoaduriaid ac amgylchedd anniogel arall ar draws y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Rheoliad III Dulyn

Mae’r Rheoliad III Dulyn yn gyfraith yr UE sy’n nodi pa wlad Ewropeaidd sy’n gyfrifol am hawliad lloches rhywun. Gall plentyn sy’n hawlio lloches ac ar ei ben ei hun gael ei drosglwyddo i wlad ble mae ganddynt aelod o’r teulu (rhiant/gofalwr, plentyn neu briod) neu berthnasau (modryb, ewythr neu daid neu nain).

Cyllid i Awdurdodau Lleol

Gall Awdurdodau Lleol hawlio ad-daliad o gostau cefnogi a gofalu am blant ar ben eu hunain sy’n ceisio lloches ac i’r cyn blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches yn derbyn cefnogaeth o dan drefniadau Gadael Gofal. Mae UKVI wedi cynhyrchu cyfarwyddiadau cyllid i Awdurdodau Lleol ar y broses gwneud yr hawliadau hyn.


Cyswllt

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙