Skip to main content

Argyfyngau
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans. Os gallwch wneud hynny’n ddiogel, gallwch hefyd fynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys yr Ysbyty agosaf. Gallwch chwilio drwy Fy Adran D&A yn Fyw - GIG Cymru. Peidiwch â ffonio 999 na defnyddio’r Adrannau Damwain ac Argyfwng ar gyfer mân broblemau meddygol. Os byddwch angen cymorth meddygol ar frys ac nad yw’n bygwth bywyd, gallwch ffonio 111 i gyrraedd y GIG.

Gofal Iechyd Arferol
Gallwch gofrestru gyda MT (Meddyg Teulu) i sicrhau eich bod yn cael mynediad i driniaeth pan fyddwch yn sâl. Nid ydych angen tystiolaeth o’ch cyfeiriad na statws mewnfudo i gofrestru gyda MT sydd fel arfer y pwynt cyswllt cyntaf os oes gennych broblem iechyd, a  dylech gael eglurhad os caiff eich cais i gofrestru ei wrthod. Gallwch ddod o hyd i’ch Meddyg Teulu Lleol, deintydd a gwasanaethau meddygol eraill ar wefan y GIG.

Iechyd Meddwl
Gallwch siarad gyda’ch Meddyg Teulu os byddwch yn teimlo dan straen ac mae’n bosibl y gall eich Meddyg Teulu ddod o hyd i gymorth arbenigol. Mwy o wybodaeth ac adnoddau ar gael ar wefan Iechyd Meddwl a Lles y GIG.

Mae Llinell Wrando Iechyd Meddwl C.A.L.L yn darparu llinell gymorth gwrando ac emosiynol iechyd meddwl cyfrinachol sy’n agored 24/7 gyda chyfieithydd yn eich dewis iaith.  Mae C.A.L.L. yn gallu arwyddbostio i gefnogaeth mewn cymunedau lleol hefyd ac ystod o wybodaeth ar-lein.  Mae C.A.L.L. yn darparu gwasanaeth cyfieithu drwy’r alwad. Ffoniwch "0800132737", testun “help” i "81066" neu ewch i callhelpline.org.uk.

Mae gan Y Samariaid wasanaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 
diwrnod y flwyddyn. Rhif ffôn “116 123”

Deintyddol
Cliciwch ar y ddolen ganlynol a chliciwch ar ddeintyddion o'r gwymplen i gael gwybod am bractisau deintyddol yn eich ardal leol. GIG 111 Cymru - Gwasanaethau yn eich ardal chi.

Y gwasanaeth deintyddol mwyaf cost-effeithiol yw ymuno fel claf GIG. Mae amrywiaeth o daliadau penodol ar gyfer gwasanaethau deintyddol oni bai eich bod chi neu un o'ch teulu yn gymwys i gael gwasanaeth heb unrhyw dâl. Am fwy o wybodaeth am daliadau ac eithriadau deintyddol y GIG, cliciwch ar y ddolen ganlynol Taliadau ac eithriadau deintyddol y GIG | GOV. CYMRU

Os oes gennych boen, dannedd, trawma deintyddol neu chwyddo, cliciwch ar y ddolen ganlynol GIG 111 Cymru - Gwiriwch Eich Symptomau : Deintyddol a dilynwch y cyngor a ddarparwyd. Os oes gennych broblem ddeintyddol arall, chwiliwch am gyngor ar y pwnc hwnnw ar y ddolen ganlynol https://111.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/ a dilynwch y cyngor priodol.

Mae hefyd yn bosibl cofrestru gyda deintydd fel claf preifat. Mae gofal deintyddol preifat uniongyrchol yn fwy costus na gwasanaeth y GIG. Mae llawer o bobl yn cymryd cynllun gofal iechyd deintyddol sy'n cynnwys lefel benodol o driniaeth ar gyfer ffi tanysgrifio fisol. Bydd eich practisau deintyddol lleol yn gallu rhoi cyngor ar gofrestru fel claf preifat a chynlluniau gofal iechyd deintyddol.

Profi ar gyfer twbercwlosis cudd (TB)
Os ydych eisoes yn y DU ac yn ymgeisio neu’n ymestyn visa Gwladolion Prydeinig (Tramor) byddwch angen prawf TB os na wnaethoch ddarparu tystysgrif TB pan ddaethoch i’r DU.   Byddwch hefyd angen prawf TB os ydych wedi byw yn unrhyw un o’r  gwledydd a restrwyd  am 6 mis neu fwy, neu os oeddech yn byw yno (neu wlad arall a restrwyd) o fewn y 6 mis diwethaf.  Dylech gael gwybodaeth a chyngor am yr angen i gynnal prawf. Gall eich MT  awgrymu cael prawf pan fyddwch yn cofrestru fel claf.


 

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙