About Us Cym
Rôl y Bartneriaeth yw:
Hwyluso cydweithrediad a thrafodaeth ymhlith y DU, llywodraeth leol a datganoledig a gwasanaethau cyhoeddus, sector gwirfoddol a phreifat a holl bartneriaid â diddordeb mewn ymfudiad, i gefnogi camau strategol.
Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu polisi ymfudo cenedlaethol, datganoledig a lleol, datrys materion a rhannu arfer orau.
Cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mewnfudwyr ar draws Cymru.
Gweithredu fel cwndid ar gyfer llif gwybodaeth dwy ffordd rhwng y Swyddfa Gartref ac adrannau eraill o’r llywodraeth a phartneriaid cenedlaethol (DU a Chymru).
Mae Bwrdd Gweithredol Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn i sicrhau trosolwg strategol o raglenni mudo yng Nghymru a dull cydlynol, yn seiliedig ar leoedd.
Mae cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol yn cael eu cadeirio gan y Cyng Andrea Lewis a mynychir gan aelodau etholedig ac uwch gynrychiolwyr awdurdodau lleol, y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, Clearsprings/Ready Homes, y Groes Goch Prydeinig, Cymorth Mewnfudwyr, Cyngor Ceiswyr Lloches Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Alltudion ar Waith (DPIA), Heddluoedd Cymru, Cymunedau Ffydd. Arsylwyr: Comisiynydd Plant Cymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr.