Gwybodaeth Wcráin
Cydlynydd Cynlluniau Wcráin Cymru
Swydd
Mae Cydlynydd Cynlluniau Wcráin WSMP yn arwain ar Gynllun Noddi Wcráin, Cynllun Teuluoedd Wcráin a Chynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin Llywodraeth y DU ledled Cymru. Mae’r Cydlynydd Cynlluniau Wcráin WSMP yn gweithredu fel un pwynt cyswllt ar gyfer y rhaglen Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, y Swyddfa Gartref, cynghorau, y sector gwirfoddol a phartneriaid eraill yng Nghymru. Mae’r rôl hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth eu Cynllun Uwch-noddwr.
Cynllun Noddi Wcráin: Cartrefi i Wcráin
Trosolwg
Mae’r Cynllun Noddi Wcráin a elwir yn ‘Cartrefi i Wcráin’ yn gynllun gan Lywodraeth y DU sy’n caniatáu i bobl o bob rhan o’r DU gynnig eu hystafell neu lety sbâr i bob o Wcráin sydd wedi gorfod ffoi oherwydd y rhyfel. Gelwir dinasyddion y DU sy’n ymuno â’r cynllun yn ‘letywyr’ a byddant yn ymrwymo i gartrefu eu gwesteion o Wcráin am o leiaf 6 mis. Ar gyfer y cyfnod lletya, a all fod hyd at 24 mis, mae gan letywyr hawl i ‘daliad diolch’ am eu haelioni a’u cefnogaeth.
Yng Nghymru, mae strwythur y taliad diolch fel a ganlyn:
- Os yw dinesydd o Wcráin wedi bod yn byw yn y DU am fwy na 12 mis bydd lletywyr yn gymwys am daliad diolch o £500 gan Lywodraeth y DU.
- Os yw dinesydd o Wcráin wedi bod yn byw yn y DU am lai na 12 mis bydd lletywyr yn gymwys am daliad diolch o £350 gan Lywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £150 yn ychwanegol at y taliad hwnnw.
- Gwnaed hyn er mwyn i bawb yng Nghymru sy’n lletya pobl o Wcrain gael yr un taliad o £500 waeth pa mor hir mae’r dinesydd/dinasyddion o Wcráin wedi bod yn byw yn y DU.
Erbyn 1 Awst 2023 roedd Cynllun Noddi Wcráin wedi cyhoeddi 167,000 o fisâu i bobl o Wcráin ac mae 129,300 o’r rhain eisoes wedi cyrraedd y DU. Yng Nghymru cyhoeddwyd cyfanswm o 10,853 fisa gyda 6,928 o ddinasyddion eisoes wedi cyrraedd y wlad.
Cartrefi i Wcráin - Byddwch yn lletywr - Cynnig cartref yng Nghymru i ffoaduriaid o Wcráin
Cartrefi i Wcráin: Canllawiau i letywyr a noddwyr - Cartrefi i Wcráin: canllawiau i letywyr a noddwyr
Cynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru
Trosolwg
Fel y ‘Genedl Noddfa’ gyntaf erioed, ym mis Ebrill 2022 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fod yn ‘uwch-noddwr’ i ddinasyddion o Wcráin. Mae hyn yn golygu y bydd Cymru’n cynnig lloches a noddfa i ddinasyddion ychwanegol o Wcráin nad ydynt wedi’u clustnodi i noddwr unigol enwebedig fel rhan o’r cynllun Cartrefi i Wcráin.
Darparodd Llywodraeth Cymru lety, cymorth a gofal i’r rhai a gyrhaeddodd y wlad o dan y Cynllun Uwch-noddwr drwy sefydlu rhwydwaith o ‘ganolfannau croeso’ i fod yn llety cychwynnol iddynt. Ar ôl cyrraedd ac aros mewn canolfan groeso am gyfnod, disgwylir i ddinasyddion o Wcráin symud ymlaen i lety tymor canolig a hirdymor mwy addas.
Erbyn 1 Awst 2023 roedd Llywodraeth Cymru wedi noddi 3,180 dinesydd o Wcráin a oedd wedi cyrraedd Cymru.
Arweiniad
Y cam ‘Symud Ymlaen - Noddfa | Uwch-noddwr (llyw.cymru)
Gwrthod llety ‘Symud Ymlaen’ - Noddfa | gwrthod llety 'Symud Ymlaen': Cwestiynau Cyffredin(llyw.cymru)
Canllawiau ar gyfer cynghorau yng Nghymru - Cartrefi i Wcráin Cyllid – Cartrefi i Wcrain - Cyllid
Canllawiau cyffredinol ar gyfer cynghorau yng Nghymru - Cartrefi i Wcráin: canllawiau i awdurdodau lleol
Cynllun Teuluoedd Wcráin
Trosolwg
Mae Cynllun Teuluoedd Wcráin yn caniatáu i ymgeiswyr ymuno ag aelodau eu teulu sydd eisoes yn byw yn y DU neu i ymestyn eu harhosiad os ydynt yn y wlad yn barod. Yn wahanol i Gynllun Noddi Wcráin: Cartrefi i Wcráin, nid yw ‘taliad diolch’ ar gyfer pobl sy’n darparu llety ar gyfer perthnasau yn un o nodweddion y cynllun hwn ac nid yw’n dod gydag arian ychwanegol ar gyfer cynghorau.
I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi ddiwallu'r meini prawf canlynol:
- Y cais yn un i ymuno â neu ddod yng nghwmni aelod o’r teulu sy’n byw yn y DU.
- Rhaid bod yn ddinesydd Wcráin neu’n aelod o deulu gwladolyn Wcráin sy’n gwneud cais drwy’r cynllun i ymuno ag aelod uniongyrchol o’u teulu yn y DU.
- Roedd y dinesydd yn byw yn Wcráin ar neu yn union cyn 1 Ionawr 2022.
Tan 1 Awst 2023 roedd cyfanswm o 69,600 fisa wedi’u cyflwyno o dan y Cynllun Teuluoedd Wcráin.
Taflen Ffeithiau
Taflen Ffeithiau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref – Taflen Ffeithiau 4 Gwybodaeth am fewnfudo SAESNEG 22 MEDI 2022 (publishing.service.gov.uk)
Mwy o wybodaeth am Fisâu Cynllun Teuluoedd Wcráin – Gwneud cais am fisa Cynllun Teuluoedd Wcrain - GOV.UK (www.gov.uk)
Y cymorth sydd ar gael yng Nghymru:
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r Groes Goch Brydeinig i gynnig cymorth integreiddio arbenigol ar gyfer dinasyddion Wcráin sy’n cyrraedd Cymru drwy’r Cynllun Teuluoedd Wcráin. Nod y prosiect yw cynnig cymorth amlapio cyfannol i ddinasyddion Wcráin yng Nghymru. Mae’r Groes Goch yn cynnig y cymorth canlynol:
- Cyngor a chymorth gyda hawliau
- Mynediad at wasanaethau tai
- Mynediad at wasanaethau iechyd
- Mynediad at gyflogaeth
- Cymorth ariannol
- Mynediad i addysg
- Cymorth gydag integreiddio cymdeithasol
- Cefnogaeth i agor cyfrif banc
- Cofrestru gyda Meddyg Teulu
- Derbyniadau ysgolion
- Arwyddbostio at weithgareddau lleol
Cymorth i aelodau teuluoedd Wcráin sy’n cyrraedd Cymru - Help i ffoaduriaid Wcrain yn y DU | Y Groes Goch Brydeinig
Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin
Trosolwg
Mae Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin yn caniatau i ddinasyddion aros yn y DU os ydynt yn diwallu un o’r gofynion canlynol:
- Gwladolyn o Wcráin â chaniatâd i fod yn y DU ar neu rhwng 18 Mawrth 2022 ac 16 Tachwedd 2023 - nid oes raid iddo fod am y cyfnod cyfan
- Dinesydd o Wcráin â chaniatâd i fod yn y DU a ddaeth i ben ar neu ar ôl 1 Ionawr 2022
Yn wahanol i’r Cynllun Nawdd Wcráin a’r Cynllun Teuluoedd Wcráin nid oes angen noddwr yn y DU ar gyfer hyn.
Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion: Gwneud cais i aros yn y DU o dan y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcrain - GOV.UK (www.gov.uk)
Taflen Ffeithiau
Taflen Ffeithiau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref – Taflen Ffeithiau 4 Gwybodaeth am fewnfudo SAESNEG 22 MEDI 2022 (publishing.service.gov.uk)
Mwy o wybodaeth am Fisâu Cynllun Teuluoedd Wcráin – Gwneud cais am fisa Cynllun Teuluoedd Wcrain - GOV.UK (www.gov.uk)