Canolbwynt Croeso Hong Kong

Department for levelling up, housing and communities

Roedd llwybr mewnfudo newydd wedi agor ar 31 Ionawr 2021, yn rhoi cyfle i ddeilwyr statws Cenedlaethol Prydeinig (Tramor) (BN(O)) ac aelodau o’u teulu sy’n gymwys i ddod i’r DU i fyw, astudio a gweithio, ar lwybr i ddinasyddiaeth. Mae’r llwybr newydd hwn yn adlewyrchu ymrwymiad hanesyddol a moesol y DU i’r bobl hynny o Hong Kong sy’n dewis cynnal eu cysylltiadau â’r DU drwy dderbyn statws BN(O) ar bwynt trosglwyddo Hong Kong i Tsieina yn 1997.


Canllaw Croeso i Gymru

Mae’r 'Canllaw Croeso i Gymru' yn cael adnewyddu nwr.

Mae amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol ar gael i chi, gyda dolenni sy’n edrych ar wahanol bynciau mewn rhagor o fanylder. Rydym wedi cynnwys gwybodaeth allweddol am dai, iechyd, addysg, cyflogaeth a Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL). Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am fyw yng Nghymru, cadw’n ddiogel, lle i ganfod gwybodaeth am fewnfudo a sut i gymryd rhan mewn democratiaeth a gwneud penderfyniadau.


Bydd Cydlynydd Prosiect Cynllun BN(O) Hong Kong yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu Canolbwynt Croeso a mentrau eraill i gefnogi'r cynllun, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a chefnogaeth briodol ar waith i groesawu deilwyr Visa BN(O) i Gymru.

Os oes gennych syniadau am yr hyn a ddylai fod ar yr Canolbwynt Croeso, neu wybodaeth am gymorth ac adnoddau perthnasol, cysylltwch â Chydlynydd y Prosiect zephyr.li@wlga.gov.uk.

Os ydych yn gweithio mewn ysgol, i gyngor, elusen leol neu wedi dod ar draws pobl o Hong Kong sydd angen cymorth mewn unrhyw gyd-destun arall, yna cysylltwch â zephyr.li@wlga.gov.uk a gadael i ni wybod ble rydych wedi eich lleoli, sawl teulu ydych yn gweithio gyda nhw a’r math o gyngor adsefydlu mae pobl ei angen.

Os ydych yn ddeiliad-visa ac angen cyngor neu gefnogaeth neu ag unrhyw gwestiynau, yna gallwch gysylltu a Chydlynydd y Prosiect zephyr.li@wlga.gov.uk. Yn dibynnu ar eich mater, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad gyda’r sefydliadau ac unigolion sy’n gallu darparu cefnogaeth.


Llywodraeth DU

Mewn ymateb i anghenion rhai sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllaw i gynorthwyo Welcome: a guide for Hong Kong British National (Overseas) visa holders in the UK (Saesneg yn unig).

Bydd Cydlynydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru HKBN(O) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu Canolbwynt Croeso penodol i Gymru. Os oes gennych syniadau ar beth ddylai fod ar y Canolbwynt Croeso, neu wybodaeth am gefnogaeth ac adnoddau perthnasol yna mae croeso i chi adael i ni wybod.

Dysgu a Gwella sgiliau Saesneg

Cadarnhawyd y bydd deilwyr pasbort BN(O) sy’n cyrraedd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe neu Wrecsam yn gallu cael mynediad i‘r Canolbwynt Asesu REACH+ ESOL (Saesneg yn unig), gan ddarparu asesiadau iaith ac atgyfeiriadau i gyrsiau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn yr ardaloedd hynny. Mewn rhannau eraill o Gymru, mae ESOL ar gael yn eang mewn colegau, a chaiff cyrsiau, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, eu darparu yn y gymuned gan Addysg Oedolion Cymru hefyd. Cysylltwch â Chydlynydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ESOL i gael rhagor o fanylion (erica.williams@wlga.gov.uk), gan gynnwys manylion cyrsiau ar-lein i wella eich Saesneg. Mae rhagor o fanylion am ESOL ar gael ar ein gwefan.

Addysg a chyrsiau

Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig nifer o gyrsiau am ddim (Saesneg yn unig) a gellir cael mynediad atynt ar-lein. Mae’r cyrsiau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, o sgiliau Saesneg am oes a chefnogi iechyd meddwl a lles plant, i bwysigrwydd sgiliau rhyngbersonol a chynllunio dyfodol gwell. Mae cwrs byr ar Ddarganfod Cymru a’r Gymraeg (Saesneg yn unig) hyd yn oed. Cânt eu darparu trwy gyfrwng y Saesneg, ac maen nhw’n ffordd dda o wella eich sgiliau iaith.

Tai

Mae Housing Rights yn rhoi gwybodaeth i unigolion sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar am hawliau wrth chwilio am gartref, ar sail eu statws mewnfudo. Mae’n cynnwys gwybodaeth am hawliau cyfreithiol tenantiaid a sut i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg pan fyddwch chi’n rhentu’n breifat.

Ym mis Mai 2021, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU lythyr i sefydliadau sy’n cynrychioli landlordiaid ac asiantau gosod sy’n darparu rhagor o wybodaeth am statws cyfreithiol deiliaid statws Gwladolyn Prydeinig Dramor Hong Kong (Saesneg yn unig), a allai helpu wrth rentu eiddo.

Cyflogaeth

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd wedi’u teilwra rhad ac am ddim i helpu unigolion i wneud penderfyniadau am ddysgu, hyfforddiant a gwaith. Gallant eich helpu i nodi sgiliau trosglwyddadwy a chynghori am gyfleoedd cyflogaeth yn eich ardal. Er mwyn trefnu apwyntiad, ffoniwch 0800 028 48 44.

Mae’n bosibl y bydd gan eich awdurdod lleol dimau cymorth cyflogaeth a all eich helpu chi. Cysylltwch ag zephyr.li@wlga.gov.uk i ofyn beth sydd ar gael lle rydych chi’n byw.

Er mwyn gweithio yn y DU, bydd angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Gallwch ddechrau gweithio heb Rif Yswiriant Gwladol os gallwch chi brofi bod gennych hawl i weithio (Saesneg yn unig) yn y DU. Efallai bydd cyflogwyr yn disgwyl i chi ddarparu rhif YG, ond gall gymryd nifer o wythnosau i’ch cyrraedd. Mae mwy o fanylion i’w gweld yma (Saesneg yn unig).

UK ENIC (Saesneg yn unig) yw Canolfan Wybodaeth Genedlaethol y DU ar gyfer cydnabod a gwerthuso cymwysterau a sgiliau rhyngwladol. Gallant eich helpu â throsglwyddo eich cymwysterau a’u cymharu â’r fersiynau cyfwerth yn y DU.

Iechyd

Nid oes angen prawf o gyfeiriad na statws mewnfudo arnoch er mwyn cofrestru gyda meddyg teulu [doctor neu feddyg teulu], sef y pwynt cyswllt cyntaf fel arfer, os bydd gennych broblem iechyd. Dewch o hyd i’ch meddyg teulu lleol neu wasanaethau meddygol eraill yma.

Mae brechiadau COVID-19 ar gael i bawb 12 oed a hŷn yng Nghymru. Mae gwybodaeth am sut i drefnu eich brechiad yma.

Adnoddau a Darllen

Dechrau Bywyd Newydd yng Nghymru:
Adroddiad Ymchwil Arolwg Croeso i Ddeiliaid Fisa Gwladolion Prydeinig Hong Kong

Building a New Life in Wales:
Hong Kong BN(O) Visa Holders Welcome Survey Research Report

在威爾斯建立新的生活:
香港英國國民(海外) [BN(O)] 簽證持有者歡迎調查研究報告

Gyda diolch i Hongkongwyr ym Mhrydain (HKB) (Saesneg yn unig) am rannu’r dolenni hyn.

Arolwg ar waith a chyflogaeth, (Saesneg yn unig), yn cynnwys adroddiad llawn, holiadur, cyflwyniad, ffeithlun a recordiad o gynhadledd i’r wasg gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021.

“Dod am obaith”: Astudiaeth Polisi HKB ar Ddeilwyr Cenedlaethol Prydeinig (Tramor) Hong Kong sy’n bwriadu dod i’r DU (Dec 2020) (Saesneg yn unig) (Rhag 2020), gyda manylion ar ddemograffeg (grwpiau oed, cymwysterau, proffesiynau, incwm), pwy fydd yn dod/pryd, eu pryderon, gobeithion, paratoadau, bregusrwydd.

Cyd Argymhellion: Cefnogi Hongkongwyr i setlo yn y DU (Jan 2021) (Saesneg yn unig) (Ion 2021), ar gefnogaeth diogelwch, mewnfudo, prifysgol, ysgolion, tai, cyflogaeth, iechyd meddwl, canolbwynt gwybodaeth a chyfieithu.

Cyd brîff ar Sefyllfa Dai i bobl o Hong Kong BN(O) sy’n cyrraedd yn y DU (Saesneg yn unig) (Ebr 2021) gan gynnwys dewisiadau llety mwyaf poblogaidd a ffactorau cymhelliant i rai newydd sy’n cyrraedd ac yn chwilio am lety, materion uniongyrchol yn ymwneud â dod o hyd i lety ac argymhellion polisi.

Adroddiad Arolwg HKB ar Gyrchfannau a Ffefrir gan Hong Kong BN(O) yn y DU (Saesneg yn unig) (Mehefin 2021), gan gynghorau lleol, bod yn gynllun i rai newydd gyrraedd i symud ar ôl y chwe mis cyntaf ac i lle, faint o blant sydd angen lle mewn ysgol ac i ble.

Sesiwn tystiolaeth ar drefniadau visa Dinasyddion Prydeinig (Tramor) ar gyfer Hong Kong (Saesneg yn unig) (Gorffennaf 2021), Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin.

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

Ffôn: 029 2046 8600

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙