Skip to main content

Mae yna amrywiaeth wych o lety yng Nghymru. Mae hyn yn amrywio o eiddo teras hŷn i dai newydd. Gall lleoliad yn gallu effeithio ar brisiau. Mae’r eiddo mwyaf drud i’w gweld mewn Parciau Cenedlaethol, ar yr arfordir ac mewn rhannau o drefi a dinasoedd mawr. Mae eiddo llai drud i’w cael mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys mewn rhannau o drefi a dinasoedd a Chymoedd y De. Bydd angen i chi ystyried lle rydych chi’n byw o ran mynediad i wasanaethau, cludiant, ysgolion a mannau cyflogaeth.

Llety Rhent
Pan fyddwch chi’n cyrraedd Cymru i ddechrau, mae’n debyg y byddwch chi’n chwilio am lety yn y sector rhentu preifat. Wrth i chi ystyried rhentu eiddo, mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg. Gwnaed newidiadau i ddeddfwriaeth tai yng Nghymru yn 2022, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar sut mae’n effeithio arnoch chi ar Hawdd i’w Ddarllen. Mae’n rhaid i landlordiaid yng Nghymru fod wedi’u cofrestru a’u trwyddedu â Rhentu Doeth Cymru. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi cynhyrchu llawlyfr i denantiaid sy’n ddefnyddiol iawn.
Mae’r canllaw’n trafod:
- Rhentu gan landlord neu asiant gosod
- Chwilio am eich cartref newydd
- Byw yn eich tŷ rhent
- Beth i’w wneud ar ddiwedd y cyfnod rhentu
- Beth i’w wneud os fydd rhywbeth yn mynd o’i le

Prynu Eiddo
Ar ôl setlo yng Nghymru, mae’n bosibl y byddwch chi’n dymuno prynu eich eiddo eich hun. Mae hwn yn gam mawr, ac mae’n syniad da dod i adnabod yr ardal leol yn dda i ddechrau. Mae Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu canllaw ar Sut i Brynu Eich Cartref Eich Hun. Mae’r canllaw yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am brynu eich cartref eich hun yng Nghymru a Lloegr. Mae'n rhaid i chi dalu Treth Trafodiadau Tir os ydych yn prynu eiddo neu dir dros drothwy prisiau penodol yng Nghymru. Rydych hefyd angen dod o hyd i’ch cyngor ariannol neu forgais eich hun.

Cyngor Lleol a Threth y Cyngor
Mae yna 22 sir neu gynghorau lleol ar draws Cymru. Mae maint y dreth yn dibynnu ar eich cyngor lleol a’r math o eiddo sydd gennych, dylech wirio gyda’r cyngor lleol am fwy o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol yma.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Tai Llywodraeth Cymru.


 

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙