Arolwg Croeso 2.0
Arolwg Deiliaid Fisa Dinasyddion Prydeinig Tramor Hong Kong yng Nghymru Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru a Phrifysgol Abertawe
Mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i ymgymryd ag arolwg o Ddeiliaid Fisa Dinasyddion Prydeinig Tramor Hong Kong yng Nghymru. Mae’r arolwg yn ddienw a bydd yn casglu gwybodaeth am ddemograffeg ac anghenion a phroblemau pobl o Hong Kong yng Nghymru. Mae’r arolwg ar gael mewn Tsieinëeg Draddodiadol, Cymraeg a Saesneg. Mae’r arolwg ar gael mewn Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lunio Cynllun Gweithredu Dinasyddion Prydeinig Tramor Hong Kong yng Nghymru, a fydd yn ceisio gwella mynediad at wasanaethau a diddymu unrhyw rwystrau. Dyna pam ei bod yn bwysig i chi ddweud eich dweud er mwyn dylanwadu ar bolisi a darpariaeth gwasanaeth.
Mae gennym ni 25 o wobrau sef talebau £20 i’w rhoi. Os hoffech chi gyfle i ennill un o’r gwobrau, gadewch eich cyfeiriad e-bost i ni ar ddiwedd yr arolwg.
Cafodd yr ymchwil hwn gymeradwyaeth foesegol gan Brifysgol Abertawe (cyfeirnod moesegol: 11280). Mae’r arolwg yn gyfrinachol. Cliciwch yma i weld ein Polisi Preifatrwydd.
Bydd adroddiad dienw ar yr arolwg hefyd yn cael ei lunio gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Bydd hyn yn adeiladu ar adroddiad arolwg cynharach, Dechrau Bywyd Newydd yng Nghymru: Adroddiad Ymchwil Arolwg Croeso i Ddeiliaid Fisa Dinasyddion Prydeinig Tramor Hong Kong.
Mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru, yn cynnal Prosiect Cynllun Fisas Gwladolion Prydeinig (Tramor) (BN(O)) Hong Kong yng Nghymru gyda chyllid gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cafodd ei sefydlu yn 2001 ac mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn gweithio gyda budd–ddeiliaid yn y sectorau statudol, gwirfoddol, preifat a chymunedol i gynnig arweiniad strategol a swyddogaeth cynghori a chydlynu yn ymwneud â mewnfudo yng Nghymru.
Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 03/10/2025
Er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â WSMPHongKongBNO@wlga.gov.uk