Treth, Cyflogaeth a Busnes
Treth
Efallai y gwelwch fod y system dreth yn y DU yn wahanol i’ch ardal wreiddiol. Rydych yn talu TAW (treth ar werth) drwy brynu cynnyrch a gwasanaeth, Treth Incwm os ydych yn gweithio a mwy. Mae’r manylion ar gael ar dudalen dreth Cyllid a Thollau EF (CThEF). Gellir codi ymholiad i CThEF ar fforwm cymunedol CThEF yn uniongyrchol, neu geisio cyngor gan gynghorydd treth.
Treth: Yswiriant Gwladol
Mae’n orfodol yn y DU i dalu Yswiriant Gwladol os ydych yn 16 oed neu’n hŷn ac yn weithiwr sy’n ennill mwy na £242 yr wythnos o un swydd, neu’n hunangyflogedig ac yn gwneud elw o fwy na £12,570 y flwyddyn. Bydd angen i chi wneud cais am Rif Yswiriant Gwladol ond gallwch ddechrau gweithio heb Rif Yswiriant Gwladol os gallwch brofi bod gennych hawl i weithio yn y DU. Efallai bydd cyflogwyr yn disgwyl i chi ddarparu rhif YG, ond gall gymryd nifer o wythnosau i’ch cyrraedd.
Treth: Treth Incwm (Cyflogedig)
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Treth Incwm drwy system Talu Wrth Ennill (TWE). Dyma’r system y mae eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn ei defnyddio i gymryd Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn iddynt dalu’ch cyflog neu bensiwn. Mae eich cod treth yn dweud wrth eich cyflogwr faint i'w ddidynnu.
Treth: Hunanasesiad (Hunangyflogedig / Incwm arall)
Mae Hunanasesiad yn system y mae CThEF yn ei defnyddio i gasglu Treth Incwm. Fel arfer didynnir treth yn awtomatig o gyflogau a phensiynau. Rhaid i bobl a busnesau ag incwm arall roi gwybod amdano mewn ffurflen dreth neu gyflwyno Hunanasesiad i CThEF.
Cyflogaeth: Hawliau Gweithiwr
Fel gweithiwr, mae gennych hawliau i’ch diogelu chi yn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys
- Eich hawliau sylfaenol a’ch contract cyflogaeth
- Cyflog, gan gynnwys yr isafswm cyflog neu gyflog byw
- Gwyliau a thâl gwyliau
- Tâl salwch
- Hawliau fel rhiant
- Gweithio’n hyblyg
- Gweithio i asiantaethau
- Pensiynau’r gweithle
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith, cliciwch ar wefan Cyngor ar Bopeth Cymru. Mae Undebau Llafur yn diogelu eich hawliau yn y gweithle, cliciwch ar wefan TUC Cymru i gael rhagor o fanylion.
Cyflogaeth: Canolfan Wybodaeth Rhwydwaith Ewropeaidd y DU (UK ENIC)
Mae UK ENIC yn darparu cyngor arbenigol ar ran Llywodraeth y DU am gymharedd cymwysterau rhyngwladol, gan gynnwys rhai o Hong Kong â chymwysterau’r DU. Gallant eich helpu â throsglwyddo eich cymwysterau a’u cymharu â’r fersiynau cyfwerth yn y DU. Gallwch wneud cais ar-lein am Ddatganiad Cymharedd, a fydd yn dangos lefel eich cymhwyster dramor ar gyfer cyflogaeth, astudio a chofrestriad proffesiynol. Gall Gyrfa Cymru hefyd helpu gyda’r broses hon.
Cyflogaeth: Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd wedi’u teilwra rhad ac am ddim o’r enw Cymru’n Gweithio i helpu unigolion i wneud penderfyniadau am ddysgu, hyfforddiant a gwaith. Gallant eich helpu i nodi sgiliau trosglwyddadwy a chynghori am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn eich ardal. I drefnu apwyntiad, ffoniwch 0800 028 48 44 neu ewch i wefan Cymru’n Gweithio lle gallwch ddefnyddio’r adnodd gwe-sgwrs neu anfon e-bost i gysylltu â nhw.

Busnes: Sefydlu busnes neu’n hunangyflogedig
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n cychwyn busnesau yng Nghymru, eu gweithredu a’u tyfu. Gyda chanolfannau rhanbarthol ar draws Cymru mae cymysgedd o gymorth ar-lein a wyneb yn wyneb ar gael, yn ogystal â gweithdai hyfforddi a chyngor annibynnol. Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnwys manylion am hunan-gyflogaeth, cynllunio busnes, ymchwil i'r farchnad a chyllid.
British Business Bank yw’r banc datblygu sy’n eiddo i Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig cyngor a chymorth i fusnesau bach yn y DU, gan gynnwys help i nodi dewisiadau cyllid addas. Gan weithio gyda phartneriaid, mae’n cynnig benthyciadau cychwyn i fusnesau a chyngor mentora rhad ac am ddim i gwmnïau sydd newydd eu sefydlu. Dylech hefyd edrych ar Ganolbwynt Cyllid ar-lein British Business Bank.