Datganiad hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru.

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Data Cymru ar ran Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru. Dymunwn i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Hefyd rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet (Saesneg yn unig) yngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder llinell na gofodau testun
  • ni allwch dramwyo’r ddewislen yn hawdd gan ddefnyddio bysellfwrdd
  • ni allwch ddefnyddio rhyngweithrediad llawn y PowerBi(s) wrth ddefnyddio bysellfwrdd.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn pum diwrnod gwaith.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Gweithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anfodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Data Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA (Saesneg yn unig). Mae’r diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau yn cael eu rhestru isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Methiant i gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Wrth ddefnyddio bysellfwrdd nid yw’r cwymplenni’n agor sy’n methu maen prawf llwyddiant 2.4.7.a (dangosydd-ffocws-coll).

O ganlyniad i’r uchod - mae'r 14 opsiwn dewislen hefyd yn methu Ffocws bysellfwrdd ar faen prawf 2.4.3.a sweipio sgrin cyffwrdd yn methu ar elfen sydd ynghudd neu’n wag.

Wrth ddefnyddio bysellfwrdd nid yw’r cwymplenni’n agor sy’n methu maen prawf llwyddiant 2.4.7.a (dangosydd-ffocws-coll).

O ganlyniad i’r uchod - mae'r 14 opsiwn dewislen hefyd yn methu Ffocws bysellfwrdd ar faen prawf 2.4.3.a sweipio sgrin cyffwrdd yn methu ar elfen sydd ynghudd neu’n wag.

Wrth ddefnyddio’r PowerBi(s) mae elfennau aria sydd heb unrhyw nodwedd rôl gwerth sy’n methu maen prawf llwyddiant 4.1.2.

Wrth ddefnyddio’r PowerBi(s) mae yna ddisgrifiadau rôl aria a ddylai ddim ond gael eu defnyddio ar elfennau gyda rôl ymhlyg neu benodol sy’n methu maen prawf llwyddiant 4.1.2.

Wrth ddefnyddio’r PowerBi(s) mae cymarebau cyferbyniad lliw annigonol sy’n methu maen prawf llwyddiant 1.4.3.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn yn fewnol ar 12/05/22. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 13/05/22.

Cafodd y wefan ei phrofi diwethaf yn Mai 2022. Cafodd y sganiau awtomeiddiedig ar bob sgrin y wefan a phrofion rhyngweithiol unigol dan arweiniad, am bob bysellfwrdd,delwedd a strwythur yn erbyn WCAG 2.1 AA eu cynnal gan Data Cymru gan ddefnyddio Axe-core 4.4.1.

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

Ffôn: 029 2046 8600

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙