Gwasgariad Lloches
Mae gan lawer o gynghorau a chymunedau ledled y wlad hanes hir a pharhaus o groesawu a chefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn angen. Mae Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 yn datgan bod unigolyn sy'n ceisio lloches yn y DU, ac sydd, neu sy'n debygol o fynd, yn ddiymgeledd, yn gymwys gyda'i ddibynyddion i dderbyn cymorth oddi wrth Lywodraeth y DU wrth i'w cais am loches gael ei ystyried.
‘Gwasgaru’ yw proses y Swyddfa Gartref o symud ceiswyr lloches diymgeledd i gynghorau ledled y DU sydd wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn rhaglen wasgaru Llywodraeth y DU, a ddechreuodd yn 2001.
Mae amrywiaeth anferth ymhlith y gymuned Ceiswyr lloches yng Nghymru, o ran rhywedd, oedran, cenedligrwydd, iaith, ffydd, diwylliant a sgiliau. Mae gan Gymru chwe ardal wasgaru lloches sy'n cymryd rhan, sef: Casnewydd; Caerdydd; Abertawe; Wrecsam; Conwy a Chaerffili. Mae cynghorau eraill yng Nghymru yn gwneud cynlluniau i gymryd rhan yn y misoedd nesaf. Mae WSMP wedi gweithio'n agos gyda chynghorau ledled Cymru, ers i'r rhaglen wasgaru gychwyn, i gefnogi eu dulliau gwasgaru, helpu i hwyluso cymorth i geiswyr lloches a hybu manteision cymryd rhan. Ers llawer o flynyddoedd, mae cynghorau lleol a'u partneriaid wedi gweithio i gynnig diwylliant croesawgar tuag at geiswyr lloches, gan helpu i hwyluso mynediad i wasanaethau a chymorth i feithrin integreiddio a harneisio sgiliau pobl, ac wedi galluogi creu cysylltiadau rhwng ceiswyr lloches, ffoaduriaid a'r gymuned leol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Anne Hubbard - Rheolwr
E-Bost
Cyswllt
07950 954925