Straeon

Croeso cymunedol

Croeso cymunedol

Mae ffoaduriaid a nodir fel bod yn hawdd eu niweidio gan Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) yn cael ei hailsefydlu yn y DU hefyd gan grwpiau Nawdd Cymunedol. Roedd grwpiau yng Nghymru ymhlith y cyntaf i ailsefydlu teuluoedd yn 2017, ac erbyn hyn mae 14 teulu wedi eu hailsefydlu ledled Cymru gan sawl grŵp Nawdd Cymunedol. Dyma hanes un teulu a gafodd eu croesawu gan Croeso Teifi yng Ngheredigion. Darllenwch amdano yma (Saesneg yn unig).

Ysbrydoliaeth yn Wrecsam

Ysbrydoliaeth yn Wrecsam

Bu’n rhaid i Chawan Ali ffoi Irac yn 2015 gyda’i rhieni a’i thri brawd iau i ddod o hyd i ddiogelwch ar ôl blynyddoedd o ymladd. Gyda Saesneg cyfyngedig ac addysg ysbeidiol yn ei gwlad ei hun, bu’n rhaid i’r ferch 16 oed ar y pryd ymladd am statws ffoadur, wrth geisio ymsefydlu mewn bywyd newydd yn Wrecsam. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau ei hun, mae Chawan hefyd yn hyrwyddo newid mewn polisi ynglŷn â’r hawl i weithio, ad-uno teuluoedd a’r polisi cadw i bobl eraill tebyg iddi hi, yn Senedd Cymru a Dau Dŷ’r Senedd yn Lloegr. Yn 2020 roedd Chawan yn Enillydd Gwobr Inspire! Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion Cymru, gwrandewch ar ei stori ar bod-lediad Wythnos Addysg Oedolion (pennod 3).

Cadw’n gysylltiedig yn ystod cyfnod cyfyngiadau

Cadw’n gysylltiedig yn ystod cyfnod cyfyngiadau

Derbyniodd ffoaduriaid a ailsefydlwyd o dan y Cynllun Ailsefydlu Personau Syriaidd Hawdd Eu Niweidio (VPRS) liniaduron oddi wrth eu hawdurdod lleol – sy’n hanfodol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnodau clo, a manteisio ar ddosbarthiadau ESOL. Dyma’r dull a ddefnyddiwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Darllenwch amdano yma (Saesneg yn unig).

Rhoi rhywbeth yn ôl

Rhoi rhywbeth yn ôl

I lawer o ffoaduriaid, roedd y cyfnod cyfyngiadau symud yn 2020 yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl. Yn Abertawe, a rhannau eraill o’r DU, aeth ffoaduriaid a oedd yn deilwriaid profiadol ati i wneud dillad PPE, ac yn Aberystwyth, gwnaeth y Syrian Dinner Project goginio a dosbarthu 100 pryd bwyd i weithwyr iechyd yn Ysbyty Bronglais.

Allgymorth Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Gwent

Allgymorth Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Gwent

Mae'r gwasanaeth wedi defnyddio dulliau arloesol i ymgysylltu â cheiswyr lloches mewn perthynas â'u gofal iechyd a'u llesiant, ac meithrin ymddiriedaeth gyda gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn Rhagfyr 2021, roedd y tîm allan ar y strydoedd yn rhoi anrhegion Nadolig a thalebau i 48 o deuluoedd, ar yr un pryd â chynnal asesiadau ac ymyriadau fel gwneud trefniadau am apwyntiadai deintyddol, brechiadau plant, brechlynnau COVID ac asesu llesiant. Mynegodd y teuluoedd eu diolch diffuant am y gofal a'r gefnogaeth.

Cardiff Migration Stories

Cardiff Migration Stories

Mae'r llyfryn hwn gan Ymddiriedolaeth Runnymede wedi'i seilio ar ymchwil gyda phobl ifanc, ac yn amlygu'r straeon hanesyddol o ymfudo ac ymsefydlu'r amrywiol gymunedau sydd bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

Ffôn: 029 2046 8600

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙