Skip to main content

Ysgol: Mathau o addysg
Fel rhiant neu warcheidwad, mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi i sicrhau bod pob plentyn oedran ysgol gorfodol (5 i 16) yn cael addysg llawn amser addas.

Gallwch gofrestru eich plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a reolir gan y cyngor lleol ac mae'r addysg yng Nghymru am ddim. Mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn cael eu haddysg mewn ysgolion a gaiff eu rheoli gan gynghorau lleol. Gallwch ddod o hyd i'r ysgolion lleol yn eich ardal drwy Fy Ysgol Leol. Sylwch gallai fod galw mawr am leoedd mewn ysgolion ac mae’n bosibl na fyddwch chi’n gallu cael lle yn eich dewis cyntaf. Pan fyddwch chi wedi cofrestru eich plentyn mewn ysgol, mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch i sicrhau eu bod yn mynychu’n rheolaidd.

Fe fydd ysgolion annibynnol neu breifat yn codi ffi, er mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu gwneud cais ar gyfer ysgoloriaeth neu fwrsari. Mae’r manylion ar gael ar Ysgolion annibynnol yng Nghymru.

Gallwch hefyd wneud trefniadau eraill i roi addysg llawn amser addas i’ch plentyn, er enghraifft addysg yn y cartref.

Ysgol: Cyfrwng addysgu yng Nghymru
Y Gymraeg yw iaith Cymru sy'n wahanol i'r Saesneg. Gellir rhannu ysgolion Cymru drwy ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg fel cyfrwng addysgu. Caiff Saesneg ei haddysgu fel pwnc mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, ac mae’r Gymraeg yn rhan o’r cwricwlwm craidd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac yn cael ei hastudio tan 16 oed.

Gallai addysg Gymraeg helpu eich plentyn i ganfod gwaith yng Nghymru yn y dyfodol. Caiff nifer o wasanaethau cyhoeddus eu darparu’n ddwyieithog. Mae’r gallu i siarad Cymraeg wedi’i nodi fel ‘dymunol’ neu ‘hanfodol’ ar gyfer nifer o swyddi yng Nghymru. Mae rhestr o gwestiynau cyffredin ar wefan Cyngor Dinas Caerdydd sy’n ymwneud â manteision addysg cyfrwng Cymraeg. Mae yna hefyd ddigonedd o gefnogaeth i fyfyrwyr sy'n dewis astudio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, mae’r manylion ar gael ar Astudio yn Gymraeg

Ysgol: Cefnogi Eich Plentyn
Mae cludiant am ddim i'r ysgol ar gael i ddisgyblion sy’n byw pellter penodol o’r ysgol. Gweler wefan eich Awdurdod Lleol i gael manylion.

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024, ac mae’r cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd yn amrywio ymhlith cynghorau. Gwiriwch gyda'ch awdurdod lleol drwy chwilio am ‘Prydau Ysgol Am Ddim’.

Gellir trefnu cefnogaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), lles meddyliol a heriau eraill, cysylltwch â thîm lles yr ysgol am gefnogaeth a manylion.

Y System Addysg: Llwybr
Mae’r system addysg yng Nghymru yn cynnwys:
- Meithrinfeydd a’r Blynyddoedd Cynnar Mae gan blant hawl i le meithrin rhan amser o ddechrau'r tymor ar ôl iddynt droi'n dair oed. Gallech gael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant neu addysg gynnar os yw eich plentyn yn 3 neu’n 4 oed.   I gael mwy o fanylion, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gofal plant i blant 3 a 4 oed | LLYW.CYMRU
- Dosbarthiadau Derbyn: Mae plant yn dechrau mewn dosbarthiadau derbyn yn yr ysgol gynradd yn y mis Medi ar ôl eu penblwydd yn bedair oed.
- Ysgol Gynradd: 5-11 oed
- Ysgol Uwchradd: 11-16 oed, ar ddiwedd yr ysgol uwchradd, bydd plant yn sefyll arholiadau TGAU.
- Addysg Bellach (gan gynnwys Safon Uwch) / Colegau a Phrentisiaethau
- Addysg Uwch / Prifysgolion

Y System Addysg: Cwricwlwm Presennol / Yr Hen Gwricwlwm
Mae Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru wedi’i rannu’n bedwar Cyfnod Allweddol gyda ffocws gwahanol ar ddysgu a datblygu. Mae mwy o wybodaeth ar gael am gwricwlwm 2008.
Y Cyfnod Sylfaen (Y blynyddoedd cynnar a Chyfnod Allweddol 1): [Oedrannau: 3-7 / Blwyddyn ysgol: meithrin – Blwyddyn 2] Mae mwy o wybodaeth r gael yn: Blynyddoedd Cynnar Cymru a Chyfnod Sylfaen Hwb.
Cyfnod Allweddol 2: [Oedrannau: 7-11 / Blwyddyn ysgol: 3 - 6], gelwir hefyd yn addysg gynradd.
Cyfnod Allweddol 3: [Oedrannau: 11-14 / Blwyddyn ysgol: 7 - 9], Ysgol uwchradd hyd at y flwyddyn y gwneir dewisiadau TGAU, a chynhelir arholiadau TGAU ym Mlwyddyn 9 ar gyfer rhai pynciau.
Cyfnod Allweddol 4: [Oedrannau: 14-16 / Blwyddyn ysgol: 10 - 11], astudio TGAU.
Ar ôl 16:  [Oedrannau: 16+ / Blwyddyn Ysgol: 12 - 13], 6ed dosbarth neu goleg 6ed dosbarth ar gyfer rhai ysgolion yn ogystal â cholegau addysg bellach. Bydd myfyrwyr yn dilyn cyrsiau Safon Uwch, ond gallant gael mynediad at gyrsiau galwedigaethol hefyd.

Y System Addysg: Cwricwlwm Presennol / Y Cwricwlwm Newydd
Mae Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd i Gymru yn dechrau o fis Medi 2022 a bydd yn cael ei ddefnyddio gan bob ysgol uwchradd erbyn blwyddyn academaidd 2026/27.

Mae Cwricwlwm i Gymru yn grwpio pynciau yn chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd pynciau penodol yn dal i gael eu haddysgu, ond gall ysgolion benderfynu dod â nhw at ei gilydd fel bod dysgwyr yn deall y cysylltiadau rhyngddynt. Ym Maes y Dyniaethau, er enghraifft, gellir edrych ar bwnc fel newid hinsawdd yn gyfannol drwy ddaearyddiaeth, hanes ac effaith ar gymdeithas. Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cael eu haddysgu a’u cymhwyso ar draws y cwricwlwm ac i bawb drwy gydol eu haddysg. Y chwe maes dysgu a phrofiad:

- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Y Dyniaethau
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Cysylltwch â'r ysgol i gael mwy o ddealltwriaeth am gynllun eu cwricwlwm. 

Colegau Addysg Bellach
Mae Colegau Addysg Bellach (AB) yn darparu addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae cyrsiau’n cynnwys Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol. Fel arfer, mae dwy lefel o ran ffioedd: ffi ‘gartref’ is a ffi ‘dramor’ uwch. Nid yw cyllid AB ar gyfer ‘ffioedd cartref’ yn cael ei gyfrif fel cyllid cyhoeddus at ddibenion mewnfudo, a gall person ifanc neu oedolyn gael mynediad ato os yw’r amod ‘dim hawl cyrchu cronfeydd cyhoeddus (DHCCC)’ yn berthnasol iddynt.

Fodd bynnag, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid AB, mae’n rhaid i fyfyriwr fodloni gofynion sy’n ymwneud â’u statws mewnfudo ac ers faint maen nhw’n preswylio yn y DU. Gall y rheolau hyn fod yn gymhleth, ac maent wedi’u nodi’n fanwl gan Gyngor y DU ar Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA). 

Prentisiaethau
Mae Prentisiaethau yn ffordd wych o gael cymwysterau tra rydych chi’n gweithio ac ennill cyflog, gydag 20 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc. Gallwch ddechrau prentisiaeth yn 16 oed a dechrau Prentisiaeth Gradd yn 18 oed. Mae pob prentisiaeth ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru beth bynnag fo’u statws mewnfudo. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Prentisiaethau | Gyrfa Cymru.

Addysg Uwch
Fel arfer, caiff Addysg Uwch (AU) ei darparu mewn prifysgolion, colegau a sefydliadau arbenigol, er enghraifft colegau cerddoriaeth neu golegau amaethyddol. Caiff deiliaid Fisa HKBN(O) eu cyfrif fel myfyrwyr rhyngwladol a byddai ffioedd cyrsiau AU yn cael eu codi ar gyfraddau myfyrwyr rhyngwladol. Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu gwneud cais ar gyfer ysgoloriaeth neu fwrsari trwy eich prifysgol a ffefrir.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ffioedd cartref, mae’n rhaid i fyfyriwr fodloni gofynion sy’n ymwneud â’u statws mewnfudo ac ers faint maen nhw’n preswylio yn y DU. Gall y rheolau hyn fod yn gymhleth, ac maent wedi’u nodi’n fanwl gan Gyngor y DU ar Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA).  Ar ôl cael statws sefydlog / Caniatâd Amhenodol i Aros, mae gan ddeiliaid Visa HKBN(O) hawl i ffi cartref yn dechrau o'r semester canlynol.

Cymwysterau
Trosglwyddo eich cymwysterau o Hong Kong i’r DU. Mae Canolfan Wybodaeth Rhwydwaith Ewropeaidd y DU (UK ENIC) yn darparu cyngor arbenigol ar ran Llywodraeth y DU am gymharedd cymwysterau rhyngwladol, gan gynnwys rhai o Hong Kong â chymwysterau’r DU. Gallant eich helpu â throsglwyddo eich cymwysterau a’u cymharu â’r fersiynau cyfwerth yn y DU. Gallwch wneud cais ar-lein am Ddatganiad Cymharedd, a fydd yn dangos lefel eich cymhwyster dramor ar gyfer cyflogaeth, astudio a chofrestriad proffesiynol.

Mae UK ENIC wedi gwneud gwaith ymchwil i lefelau cymaradwy’r blynyddoedd o astudio sy’n dod o flaen cwblhau’r HKDSE yn llawn. Felly maen nhw’n gallu cyhoeddi Datganiadau Cymharedd, er nad yw’r cymhwyster gadael ffurfiol wedi’i gwblhau. Gall hyn helpu i arwain ysgolion a cholegau o ran cofrestru ar gyfer cyrsiau Safon Uwch ac eithriadau cyllid 16-19.


 

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙