Adnoddau i gefnogi Ffoaduriaid o Syria yng Nghymru
Comisiynwyd y Pecyn Addysg ar gyfer Plant Ffoaduriaid o Syria yng Nghymru a'r Pecyn Hyfforddi Diwylliannol ar gyfer Ffoaduriad wedi'u adsefydlu gan y WSMP yn sgil twf y niferoedd o ffoaduriaid yn cyrraedd cymunedau ar draws Cymru, ac fel rhan o’r rhaglen i adsefydlu Syriaid.
Pecyn Hyfforddi Diwylliannol ar gyfer Ffoaduriad wedi'u adsefydlu
Bwriad y Pecyn Hyfforddi Diwylliannol ar gyfer Ffoaduriad wedi'u adsefydlu yw darparu cyflwyniad manwl i fywyd yn y DU a Chymru i ffoaduriaid wedi adsefydlu. Comisiynwyd yr hyfforddiant gan y WSMP ac mae wedi ei greu ar gyfer ei ddefnyddio gyda chyfieithwyr a dehonglwyr yn siarad Arabeg. Fe’i datblygwyd ar ôl ymgynghori gyda ffoaduriaid, ac mae’n adeiladu ar yr ymgyfarwyddo a dderbynnir yn y gwledydd tarddiad gan y Mudiad Mewnfudo Rhyngwladol (IOM).
Pecyn Addysg ar gyfer Plant Ffoaduriaid o Syria yng Nghymru
Datblygwyd y Pecyn Addysg ar gyfer Plant Ffoaduriaid o Syria yng Nghymru mewn partneriaeth rhwng y WSMP a Gwasanaeth Addysg Ethnig Lleiafrifol Gwent (GEMS), ac mae’n adeiladu ar brofiad sylweddol o helpu plant ffoaduriaid a phlant yn ceisio lloches i integreiddio i fywyd ysgol. Mae ar gael i bob athro sy’n cefnogi plant ffoaduriaid.