Cymuned a Diogelwch
Cymuned: Cydlyniant
Mae cymryd rhan yn eich cymuned leol yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, dilyn eich diddordebau a gwella eich Cymraeg neu Saesneg llafar. Mae Dewis Cymru yn wefan ddefnyddiol iawn a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am gefnogaeth, gweithgareddau a gwasanaethau yn eich ardal leol.
Mae dod yn wirfoddolwr yn ffordd dda iawn o gyfrannu at eich cymuned leol, darparu llwybr at gyflogaeth a dod i adnabod pobl hefyd. Mae rhagor o wybodaeth a chyfleoedd gwirfoddol i’w gweld ar Gwirfoddoli Cymru.
Mae eglwys yn rhan arwyddocaol o'r gymuned leol, gallwch ddod o hyd i eglwys yn agos i'ch cartref. Mae hysbysfyrddau cymunedol yn lle da i chwilio am glybiau a chymdeithasau sy’n weithredol yn eich cymdogaeth.
Cymuned: Cludiant a Theithio
Cludiant cyhoeddus
Mae cludiant cyhoeddus wedi’i gysylltu’n well yn ninasoedd a threfi mwy Cymru, ond gall fod yn anaml neu hyd yn oed heb gludiant cyhoeddus o gwbl mewn rhai ardaloedd gwledig. Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwybodaeth am gludiant cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys sut i gynllunio eich taith a manylion bysiau a threnau.
Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod chi’n 60 oed neu hŷn neu’n bodloni meini prawf cymhwyso’r Llywodraeth o ran anabledd, waeth beth fo'ch statws mewnfudo, gallwch deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bws yng Nghymru a gallwch deithio’n rhatach neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y Cerdyn Teithio Rhatach.
Gyrru
Bydd angen trwydded yrru ddilys arnoch er mwyn gyrru yn y DU. I gael manylion, ewch i Trwyddedau Gyrru - GOV.UK (www.gov.uk).
Efallai bydd hi’n bosibl i chi gyfnewid eich trwydded yrru Hong Kong am drwydded yrru’r DU. Mae Hong Kong yn diriogaeth ddynodedig sydd â chytundeb cyfnewid trwydded yrru gyda’r DU. Mae hyn yn golygu efallai byddwch chi’n gallu parhau i yrru yn y DU heb gyfnewid eich trwydded am 12 mis ar ôl i chi breswylio yma. Ar ôl 12 mis, mae’n rhaid i chi gyfnewid eich trwydded er mwyn dal i yrru. I gael manylion, ewch i adran Cyfnewid trwydded yrru dramor - GOV.UK (www.gov.uk).
Teithio cynaliadwy
Mae cerdded a beicio yn ffordd dda o archwilio cyfoeth naturiol gwych Cymru. I gael manylion beicio, ewch i'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Diogelwch: Diogelwch Cymunedol
Mewn argyfwng ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu / y Gwasanaeth Tân / Gwylwyr y Glannau / ambiwlans. Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am gymorth a chyngor ar Lywodraeth y DU Cefnogaeth fel dioddefwr trosedd.
Diogelwch: Trosedd Casineb
Trosedd Casineb yw trosedd a gyflawnwyd yn erbyn rhywun oherwydd eu:
- Hil
- Crefydd
- Cyfeiriadedd Rhywiol
- Anabledd
- Hunaniaeth o ran rhywedd
Nodweddion a ddiogelir yw’r rhain. Gallwch chi brofi Trosedd Casineb yn seiliedig ar un neu fwy o’r uchod, neu os canfyddir bod gennych un neu fwy o’r nodweddion hyn a ddiogelir.
Gallwch roi gwybod i’r Heddlu am Drosedd Casineb, trwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng. Bydd Swyddog Cefnogi Trosedd Casineb wedi’i hyfforddi’n arbennig yn eich cefnogi.
Mae’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth yn cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr ac mae’n cynnig cefnogaeth gyfrinachol, annibynnol, rhad ac am ddim a all eich helpu i ymdopi ac adfer o effaith Trosedd Casineb. Rhif ffôn 0300 30 31 982.
Mae On Your Side yn wasanaeth cefnogi ac adrodd ar gyfer y DU gyfan ar gyfer unrhyw un yn y DU sy'n nodi eu bod yn Asiaidd o Ddwyrain a De-ddwyrain Asia, sydd wedi profi hiliaeth neu unrhyw fath o gasineb. Mae'n darparu cyfieithiad Cantoneg.

Diogelwch: Gwahaniaethu
Mathau o wahaniaethu (‘nodweddion gwarchodedig’)
Mae’n erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd:
- oedran
- ailbennu rhywedd
- bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- bod yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth
- anabledd
- hil yn cynnwys lliw, tarddiad cenedlaethol, ethnig neu genedligrwydd
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
I gael gwybod mwy, ewch i Gwahaniaethu: eich hawliau.Mae cymorth a chefnogaeth ar gael ar Noddfa | Aros yn Ddiogel (llyw.cymru).
Mae mwy o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol ar gael ar linell gymorth Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU.
Diogelwch: Stopio Cosbi Plant yn Gorfforol
O 21 Mawrth 2022, bydd cosbi plant yn gorfforol yn erbyn y gyfraith yng Nghymru. Am fanylion, ewch i Stopio cosbi corfforol yng Nghymru | LLYW.CYMRU.