Cydlynydd Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Role

Mae’r Cydlynydd Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd sy’n ailsefydlu yn cael mynediad i ddosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill er mwyn hybu integreiddio i gymunedau lleol. Mae gan Llywodraeth Cymru Bolisi ESOL s’yn sicrhau bod dosbarthiadau ar gael am ddim ond ble mae dosbarthiadau wedi gor-danysgrifio, neu ddim ar y lefel gywir, bydd y Cydlynydd yn helpu awdurdodau lleol i gomisiynu darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill pwrpasol, neu’n annog darparwyr i ymestyn y cynnig yn y meysydd hynny.

Mae Cydlynwyr ESOL yn cwrdd yn rheolaidd i rannu syniadau ac arfer gorau, fel cefnogaeth ar lein gan y Cyngor Prydeinig a Excellence Gateway, yn ogystal ag amlygu adnoddau i  gefnogi gwirfoddolwyr, a  chefnogaeth ESOL a ddarperir gan NATECLA, er enghraifft.

Cydnabyddir mewn rhai ardaloedd bod y gallu i siarad Cymraeg yn gallu bod o gymorth ar gyfer integreiddio a dod o hyd i waith, a gall ffoaduriaid ofyn am gefnogaeth i gael mynediad i dosbarthiadau Cymraeg, os dymunent.

Mae’r Cydlynydd Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill hefyd yn weithgar yn helpu awdurdodau lleol i wella’r siwrnai i gyflogaeth i deuluoedd ac yn gweithio gyda phartneriaid, fel Hyb REACH+ ESOL yn ardaloedd gwasgariad Cymru, a phartneriaid eraill ar draws Cymru a’r DU.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Erica Williams - Cydlynydd ESOL

Cyswllt

029 2046 8518 neu 07436 034913

Cysylltwch â ni

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

One Canal Parade

Dumballs Road

Caerdydd, CF10 5BF

Ffôn: 029 2046 8600

E-Bost: WSMPComms@wlga.gov.uk

Oriau busnes : Llun - Iau 08:30 - 17:00, Gwen - 08:30 - 16:30

Datganiad hygyrchedd

An error has occurred. This application may no longer respond until reloaded. Reload 🗙