Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
Mae Polisi ESOL Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dosbarthiadau ESOL ar gael am ddim hyd at lefel ymarferoldeb. Mae Cydlynydd ESOL WSMP yn cydgysylltu â cholegau a darparwyr Trydydd Sector ESOL ledled Cymru i helpu i lunio'r ddarpariaeth orau bosibl i ddysgwyr.
Mae llawer o gyrsiau ESOL defnyddiol ar gael ar safle Excellence Gateway (Saesneg yn unig), sy'n cefnogi dysgwyr a thiwtoriaid fel ei gilydd.
Mae'r Gymdeithas Genedlaethol er Dysgu Saesneg ac Ieithoedd Cymunedol Eraill i Oedolion (NATECLA) (Saesneg yn unig) yn cynnig cymorth rhagorol, gyda gweminarau rheolaidd, a chefnogaeth werthfawr i athrawon gwirfoddol ESOL (Saesneg yn unig).
Mae Cydlynwyr ESOL yn cwrdd yn rheolaidd i rannu syniadau ac arfer gorau, fel cymorth ar-lein gan y Cyngor Prydeinig ac Excellence Gateway, yn ogystal ag amlygu adnoddau i gefnogi gwirfoddolwyr a chymorth ESOL sy'n cael ei ddarparu gan NATECLA er enghraifft.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig amrediad o gyrsiau, llawer ohonynt ar gael ar-lein.
Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) Polisi i Gymru
Polisi i Gymru.
Little Bridge
Yn wefan rhyngweithiol, a anelwyd at blant, ond yn ddefnyddiol i deuluoedd. Mynediad am ddim i geiswyr lloches a theuluoedd ffoaduriaid. Dylai unrhyw un â diddordeb anfon e-bost hello@littlebridge.com. Defnyddiwch y cyfeirnod: 'Cefnogaeth Saesneg’ a 'Swyddfa Gartref’ i’w helpu i flaenoriaethu’n effeithiol. Yna bydd Little Bridge yn sefydlu cyfrif am ddim ac yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim, os bydd angen - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Cydlynydd ESOL
Mae’r Cydlynydd ESOL yn rhannu gwybodaeth ynglŷn â seminarau dros y we, adnoddau ac ati.